Cartref Llyfr sgrap
Y Deyrnas Unedig

Y Deyrnas Unedig

O amgylch y byd mae pobl yn ceisio gwneud y blaned yn le gwell. Trwy stori Jelisa a’r daflen waith, canfyddwch fwy am fod yn ‘ddinesydd gweithredol’.

Yma yn y DU gallwn gyfarfod â’m ffrind Jelisa.

Stori Jelisa

Stori Jelisa

Dyma Jelisa Johnson. Mae’n ddeg oed ac yn byw yng ngogledd orllewin Llundain.

Mae gan Jelisa dair chwaer a dau frawd. Mae ym mlwyddyn 5 yn yr ysgol ac mae’n hoffi chwaraeon. Meddai, ‘Rydw i am fod yn gymnastwr yn yr Olympics!’

Stori Jelisa

Mae Jelisa a’i ffrindiau yn Ail bac Brownies Sudbury. Clwb wythnosol i ferched rhwng 7 ac 11 ydi Brownies.

‘Rwyn hoffi Brownies. Mae’n hwyl,’ meddai Jelisa. ‘Rydych yn mynd ar deithiau ac yn gwneud celf a choginio.’

Stori Jelisa

Pan ydych yn ymuno a phac Brownies rydych yn addo helpu pobl eraill. Mae grŵp Brownies Jelisa wedi bod yn dysgu am fywydau pobl yn rhannau eraill o’r byd, ac maent wedi penderfynu gwneud cacennau i’w gwerthu i godi arian i elusen.

Meddai Jelisa, ‘Fe hoffwn i petai bawb yn cael tai, dwr ac addysg dda - yr holl bethau yr ydan ni’n ei fwynhau yma.’

Am ba bethau annheg ydych chi wedi clywed yn digwydd o amgylch y byd? Be allech chi ei wneud i helpu?

Stori Jelisa

Fe werthodd y Brownies y cacennau a wnaethant i’w ffrindiau a’u teulu.

‘Gall plant wneud pethau i helpu eraill – gallant roi dillad, esgidiau, codi arian, rhoi i elusennau,’ meddai Jelisa.

Meddai Niamh, ffrind Jelisa, ‘A gall plant ysgrifennu at y prif weinidog hefyd. Mae gan blant yr un hawliau a phawb arall.’”

Stori Jelisa

Ar draws y byd mae pobl yn gwneud pethau rhyfeddol i drawsnewid bywydau a gwneud y blaned yn lle gwell iddynt hwy eu hunain ac eraill.

Weithiau golyga hyn godi llais pan fo pethau’n annheg ac weithiau golyga weithredu’n ymarferol.

Mae Jelisa a’i grŵp Brownies yn mwynhau bod yn ‘ddinasyddion gweithredol’.”