Dyw Cymorth Cristnogol ddim yn credu ei fod yn deg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl o amgylch y byd yr hyn maent ei angen i fyw bywyd da. Mae am wneud rhywbeth am y sefyllfa a gallwch helpu.
Peidiwch byth a chredu eich bod yn rhy ifanc i newid y byd a’i wneud yn le tecach. Mae yna lawer o bethau y gallech ei wneud …
Meddyliwch am ffyrdd i ddweud wrth bobl yn eich ysgol a gartref am yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu. Felly gallwch ddod at eich gilydd i weithio ar brosiectau sy’n newid y byd.
Ydi eich ysgol chi yn ysgol werdd eto? Darganfyddwch mwy yn www.echo-schools.org/menu/contracts/countries
Meddyliwch am faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio fel dosbarth. Gwnewch addewid i fod yn ymwybodol am ddŵr a chadwch lygaid ar faint o ddŵr a ddefnyddir gan y dosbarth.
Mae eitemau trydanol angen ynni i weithio ond weithiau caiff hwn ei wastraffu. Ystyriwch sut y mae’r gwastraff hwn yn effeithio’r amgylchedd. Gwnewch addewid i leihau’r ynni a ddefnyddir gan y dosbarth.
Mae llawer o fwydydd yn cael ei gynhyrchu mewn rhannau eraill o’r byd ac mae ei gludo yn creu CO2. Gwnewch addewid i ymchwilio’r bwyd a fwytewch yn eich ysgol a chanfod o ble y maent wedi dod.
Mae ailgylchu’n bwysig iawn! Ymchwiliwch faint o ailgylch a wnaiff eich ysgol. Wyddoch chi be ellid ei ailgylchu? Gwnewch addewid i wneud rheolau ailgylchu ar gyfer eich dosbarth.
Un o’r pethau y mae Cymorth Cristnogol yn ei ofyn gan ei gefnogwyr yw gweddi. Mae llawer o bobl o wahanol grefyddau’n credu mewn gweddi. Mae’n ffordd o feddwl am bobl a’u sefyllfa, a beth ellid ei wneud i newid hynny.
Mae arian sy’n mynd i Cymorth Cristnogol yn cael ei ddefnyddio ar brosiectau fel y rhai sy’n cael eu dangos yn Chwilotwyr y Byd. Allwch chi feddwl am syniadau da i godi arian?
Gadewch inni wybod be ydach chi wedi ei wneud i newid y byd trwy schools@christian-aid.org