Beth yw Cymorth Cristnogol?
Elusen wedi ei sefydlu yn y DU ac Iwerddon yw Cymorth Cristnoogl sy’n gweithio mewn dros 50 gwlad. Mae am helpu pobl dlotaf y byd i wneud eu bywydau’n well. Mae Cymorth Cristnogol yn codi llais ynghylch ac yn ceisio newid y pethau hynny sy’n cadw pobl yn dlawd. Mae’n anfon yr arian mae’n ei godi i gyrff (a enwir yn ‘bartneriaid’) sy’n gweithio gyda pobl dlawd yn eu cymunedau eu huanin.
Gwyliwch ffilm am waith Cymorth Cristnogol ...
Pam fod Cristnogion am helpu pobl eraill?
Yn y Beibl, mae Iesu’n helpu’r bobl y mae’n eu cyfarfod ac yn siarad llawer am garu eraill. Mae Cristnogion yn ceisio gwneud yr un fath. Mae Cristnogion yn credu fod Duw am gael byd sy’n fwy teg ac oherwydd nad ydyw, maent yn credu y dylent wneud rhywbeth am y peth.
Cafodd Cymorth Cristnogol ei gychwyn gan grŵp o bobl o eglwysi ar draws y DU ac Iwerddon oedd am helpu ffoaduriaid.
Gwrandewch ar stori a ddywedodd Iesu am helpu eraill …
Dywed Cymorth Cristnogol ei fod yn anghywir bod rhai pobl yn byw mewn tlodi eithafol. Ond beth yw ystyr ‘tlodi’? Nid mater o fod heb ddigon o arian yw tlodi, mae a wnelo a pheidio a chael y grym i reoli y pethau hynny sy’n angenrheidiol yn eich bywyd eich hun a bywyd eich cymuned. Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gydag eraill i ddileu tlodi – am byth.