Cartref Llyfr sgrap
Sierra Leone

Sierra Leone

Mae Sierra Leone yn dod dros ryfel cartref (‘rhyfel cartref’ yw anghydfod ac ymladd rhwng pobl o’r un wlad) a ddiweddodd yn swyddogol yn 2002. Dowch inni weld sut mae pobl yn nhref Patricia yn ail adeiladu eu bywyd.

Dowch inni gyfarfod â Patricia, sy’n byw yn Sierra Leone.

Stori Patricia

Stori Patricia

Dyma Patricia Sawie. Mae’n 12 oed a hi yw’r ieuengaf o with o blant yn ei theulu. Mae’n byw mewn tref o’r enw Gbap (ynganu Bap).

Stori Patricia

Mae’r tir o amgylch Gbap yn berffaith ar gyfer tyfu bwyd, gyda phridd ffrwythlon a digon o ddŵr, ond mae nifer o bobl wedi ei chael hi’n anodd tyfu digon o fwyd i’w fwyta. Mae hyn yn rhannol oherwydd eu bod yn dal i ddod dros y rhyfel cartref.

Stori Patricia

Yn ystod y rhyfel, cafodd llawer o bobl eu lladd ac mae llawer mwy wedi ffoi o’u cartref. Er bod y rhyfel wedi dod i ben yn 2002, mae wedi cymryd amser maith i atgyweirio’r difrod a wnaethpwyd i dai a ffermydd - ac efallai hyd yn oed mwy o amser i atgyweirio’r ymddiriedaeth rhwng y bobl a gafodd eu dal gan yr ymladd.

Stori Patricia

Yn Gbap, mae pobl yn gweithio’n galed i ddelio gyda’r heriau sy’n eu hwynebu. Maent wedi sefydlu pwyllgor datblygu’r pentref - grŵp sy’n gweithio gyda’i gilydd er mwyn gwneud bywyd yn well i bawb yn y dref. Mae’n bwysig fod y pwyllgor hwn yn gwrando ar bawb, yn cynnwys pobl ifanc, fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau fydd o fudd pawb yn y gymuned.

Stori Patricia

Mae Patricia (ar y dde) yn gwybod yn union beth mae hi isio. Fe hoffai astudio’n galed fel ei bod hi’n gallu bod yn arlywydd benywaidd cyntaf Sierra Leone. Meddai, ‘Byddwn yn teimlo mor falch petawn i’r arlywydd benywaidd cyntaf. Rydw i isio darllen llawer fel bod y gallu gen i i fod yn arlywydd.’

Stori Patricia

Mae pobl ifanc gyda chynlluniau mawr angen llawer o egni a lle diogel i astudio, felly mae pwyllgor datblygu’r pentref yn sicrhau bod y gymuned yn gweithio gyda’i gilydd i dyfu digon o fwyd i fwydo pawb. Mae hefyd yn sicrhau fod gan y dref ysgol newydd, lle gall Patricia weithio’n galed i wireddu ei breuddwydion.

Stori Patricia

Doedd yr hen ysgol ddim yn ddiogel: roedd craciau yn y muriau, roedd trawstiau coed yn hongian o’r nenfwd a phryfed yn nythu mewn dosbarth. Mae pawb wedi dod at ei gilydd i helpu pwyllgor datblygu’r pentref. Maent wedi eu cefnogi gan Eglwys Fethodistaidd Sierra Leone, partner Cymorth Cristnogol, sydd wedi rhoi iddynt rhai o’r offer yr oeddent eu hangen.

Stori Patricia

Mae Patricia yn teimlo’n gyffrous am ei hysgol newydd. Meddai, ‘Bydd yn dda iawn oherwydd bydd gennym ddesgiau a meinciau yn yr adeilad newydd. Rydym yn hapus oherwydd gan fod y to yn newydd, wnaiff y distiau ddim disgyn arnom eto ac ni fydd y glaw yn diferu ar ein llyfrau. Yr hyn yr hoffem nesaf yw band yr ysgol!’

Gwyliwch ffilm i weld mwy