Mewn rhai rhannau o Ethiopia, mae merched a bechgyn yn cael eu trin yn wahanol. Rhaid i’r merched wneud llawer o dasgau, tra mai ond gofalu am y gwartheg sydd rhaid i’r bechgyn. Dowch inni ganfod sut mae Negele yn teimlo am fod yn ferch yno.
‘Fy enw yw Negele. Rwy’n 10 oed ac yn byw mewn cymuned o’r enw Hidi-Ale. Mae gen i un chwaer a thri brawd.’
Mae Negele yn hoffi mynd i’r ysgol. ‘Fy hoff bynciau yw Saesneg a mathemateg,’ meddai. Ond yn ei chymuned, mae merched yn aml yn priodi tra’u bod yn ifanc iawn a golyga hyn na chant fynd i’r ysgol mwyach. Mae Negele yn credu bod hyn yn anghywir. ‘Rydw i am orffen fy addysg,’ meddai.
Rhaid i Negele wneud mwy o waith na’i brodyr. ‘Rwy’n ferch felly dwi’n cario dŵr, casglu coed tân, glanhau’r tŷ a pharatoi bwyd,’ eglura. ‘Dim ond gofalu am y gwartheg y mae’r bechgyn.’ Mae’n helpu i goginio cinio, ond mae ei brodyr yn cael bwyta o’i blaen hi.
Mae gwartheg yn bwysig iawn yma, ac mae gan eu perchnogion fwy o rym. Yn draddodiadol, dim ond dynion sydd â gwartheg. Golyga hyn nad oes gan ferched rym; nid oes ganddynt yr hawl i siarad mewn cyfarfodydd na gwneud penderfyniadau, ac mae merched sy’n byw eu hunain yn aml yn dlawd iawn.
Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda chorff o’r enw HUNDEE i newid pethau i ferched. Mae HUNDEE wedi rhoi buwch i’r merched tlotaf, sy’n golygu fod ganddynt lefrith i’w yfed a’i werthu, fel eu bod yn gallu ennill arian ar gyfer y teulu.
Oherwydd eu bod yn berchnogion ar wartheg, mae gan y merched hyn yr hawl i siarad mewn cyfarfodydd, sy’n golygu y gallant wneud penderfyniadau i ddod a newid i bawb yn eu cymuned.
Bellach mae arweinwyr cymunedol wedi pasio rheol sy’n atal merched rhag priodi cyn iddynt fod yn 18 oed. Golyga hyn fod mwy o ferched yn gallu mynd yn ôl i’r ysgol ac yn golygu fod y gymuned yn cadw deddf gwald sy’n dweud bod yn rhaid bod yn 18 neu drosodd i briodi.
Diolch i Cymorth Cristnogol, mae gan ferched fel Negele fwy o hawliau ac yn gallu parhau yn yr ysgol. ‘Pan fyddaf wedi gorffen fy addysg, rwyf am drin pobl sydd yn sâl.’ meddai Negele.