Beth yw eich hoff beth i’w fwyta? Mae Ivana yn hoffi wyau, ond nid yw bob amser wedi cael digon i’w fwyta.
Mae Ivana’n ddeg oed ac yn byw yn Bolivia, gwlad yn Ne America. Mae ei chartref mewn rhanbarth hardd iawn, yn ddwfn yng nghoedwig law'r Amason - gyda choed, adar ac anifeiliaid o’i chwmpas.
Mae’r goedwig law yn bwysig iawn; mae’n bwysig i Ivana oherwydd ei bod yn tyfu ei bwyd yno, ac mae’n bwysig i’r byd oherwydd bod y coed yn helpu i wneud ocsigen, yr ydym i gyd ei angen er mwyn anadlu.
Mae Ivana yn mwynhau byw yn y goedwig law: ‘Mae yna anifeiliaid y gallwn eu hela, ffrwythau i’w bwyta, a phan ydym eu hangen gallwn ddefnyddio’r coed.’
Ond mae bywyd wedi bod yn galed i Ivana a’i theulu hefyd – weithiau nid oedd ganddynt ddigon i’w fwyta, oherwydd roedd y goedwig wedi gorlifo neu oherwydd ei fod yn rhy sych ac roedd tân wedi dinistrio’r coed a’r cnydau.
Beth ydych chi’n ei hoffi am le rydych yn byw?
Mae elusen Cymorth Cristnogol, a chorff o’r enw CIPCA, yn gweithio gyda theuluoedd fel Ivana i ganfod ffyrdd i sicrhau fod ganddynt ddigon o fwyd trwy gydol y flwyddyn. Maent wedi rhoi ieir a defaid i’r teuluoedd a’u dysgu sut i ofalu amdanynt. Mae’r anifeiliaid hyn yn rhoi cig ac wyau i’r teuluoedd.
Meddai Ivana, ‘Rydym yn bwyta llawer o wyau. Dwi’n eu hoffi wedi eu ffrio! Weithiau rydym yn cyfnewid wyau am siwgr a bananas. Mae’n well rŵan bod gennym ni ieir oherwydd gallwn brynu mwy i’w fwyta.’
Mae’r teulu hefyd wedi cael eu dysgu sut i ofalu am blanhigion coco sy’n tyfu o’u cwmpas. Gellid defnyddio coco i wneud siocled hyfryd, y gellid ei werthu neu ei gyfnewid am bethau fel reis, olew a siwgr.
Meddai Ivana: ‘Mae siocled yn bwysig oherwydd gallwn ei werthu a phrynu’r bwyd arall yr ydan ni ei angen. Rwyn hoffi siocled poeth, mae’n hyfryd.’
Mae wyau a siocled wedi helpu cymuned Ivana i wneud gwahaniaeth mawr yn eu bywyd. Mae’r dyfodol yn edrych yn well iddynt, gyda diet llawn ac iach.
Pa fwyd ydych chi’n ei fwynhau?