Cartref Llyfr sgrap
Nicaragua

Nicaragua

Mae Meriling yn byw yn Nicaragua, Canolbarth America. Mae’n mynd i ysgol oedd yn arfer bod yn warws. Gyda gobaith, mae hyn i gyd yn mynd i newid – oherwydd ffa coffi a chydig o waith tîm.

Mae ysgol Meriling ychydig yn wahanol. Darllenwch ymlaen i weld pam.

Stori Meriling

Stori Meriling

Dyma Meriling. Mae’n byw gyda’i thad a’i mam mewn pentref o’r enw La Paz del Tuma.

Stori Meriling

Mae La Paz del Tuma yn y mynyddoedd, yn rhanbarth yn Nicaragua o’r enw Jinotega. Adnabyddir y lle fel prifddinas coffi oherwydd tyfir llawer o goffi yno ac mae llawer o bobl yn gweithio fel ffermwyr coffi.

Stori Meriling

 

Mae Meriling yn mynd i’r ysgol yn La Paz del Tuma. Dyma un o’r dosbarthiadau. Fel y gwelwch nid oes yna fyrddau du na lloriau go iawn. Does dim digon o ddosbarthiadau i’r holl blant, felly rhaid i rai ohonynt weithio y tu allan! Does dim dŵr glân na thoiledau chwaith, felly rhaid iddynt ofyn a gant ddefnyddio tai cyfagos.

Ym mha ffyrdd y mae’n wahanol i’ch ysgol chi?

Stori Meriling

Rhaid i’r plant lanhau’r ysgol eu hunain ar ddiwedd y dydd. Ac i wneud pethau’n waeth, roedd adeilad yr ysgol yn arfer storio cemegau peryglus. Mae’r rhieni yn bryderus am hyn oherwydd ni wyddant os ydyw’n amharu iechyd eu plant.

Ydach chi’n helpu i lanhau eich ysgol?

Stori Meriling

Nid dim ond un dosbarth sydd yng ngofal yr athrawes, Ivette, ond mae’n rasio o un dosbarth i’r llall ac yn dysgu dau ddosbarth ar yr un pryd.

Stori Meriling

Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda chorff o’r enw Soppexcca. Mae Soppexcca yn benthyg arian i’r ffermwyr coffi fel eu bod yn gallu prynu planhigion coffi a gwrtaith. Mae wedi eu hyfforddi sut i dyfu gwell coffi y gallent ei werthu am fwy o arian. Maent hefyd wedi helpu’r ffermwyr coffi i weithio fel menter gydweithredol, yn rhannu offer a gwybodaeth.

Stori Meriling

Mae tad Meriling Eladio yn credu petai aelodau’r fenter gydweithredol yn gweithio’n galed gyda’i gilydd i arbed chydig o’r arian y maent yn ei wneud wrth werthu coffi am brisiau gwell, byddent yn gallu codi ysgol iawn i blant La Paz del Tuma. Mae hyd yn oed wedi darganfod y fan lle byddai am weld ysgol newydd yn cael ei chodi, fel y gwelwch yma!