Allwch chi ddychmygu sut fywyd fyddai petai chi heb doiledau fflysio yn eich cartref a’ch ysgol? Ble mae Jeremiah’n byw, nid oes toiledau o gwbl.

Dowch inni ymweld â Jeremiah, sy’n byw yn Kenya.

Stori Jeremiah

Stori Jeremiah.

Prifddinas Kenya yw Nairobi. Mae nifer o bobl sydd yn byw yno a heb waith ac yn dlawd. Yn wir, mae hanner pobl Nairobi yn byw mewn aneddiadau - a elwir weithiau yn slyms. Nid yw’r tai yn yr aneddiadau hyn wedi eu codi’n dda ac nid oes carthffosiaeth.

Stori Jeremiah

Mae Jeremiah Muli yn byw gyda’i deulu mewn anheddiad yn Nairobi o’r enw Matopeni. Yn Swahili, ystyr Matopeni yw ‘yn y mwd’. Mae tri chant o deuluoedd yn byw yn Matopeni. Nid oes ffyrdd yno, dim adeiladau go iawn nac ysgolion, a than yn ddiweddar nid oedd carthffosiaeth yno, na chawodydd na thoiledau.

Sut le i fyw yw eich lle chi?

Stori Jeremiah

Mae Jeremiah yn ddeuddeg oed. Mae’n mwynhau pêl droed ac yn hoffi Manchester United. Chapatti yw ei hoff fwyd. Bara fflat ydyw wedi ei wneud gyda blawd, olew a dŵr.

Stori Jeremiah

Roedd bywyd yn Matopeni yn galed iawn. Nid oedd toiledau yno ac felly roedd rhaid defnyddio bag plastig fel toiled. Gelwid y bagiau hyn yn ‘doiledau hedfan’ oherwydd roedd pobl yn eu lluchio allan o’r tŷ neu ar ben y to.

Sawl toiled sydd gennych chi yn eich tŷ chi?

Stori Jeremiah

Roedd Jeremiah a’i deulu yn arfer mynd yn sâl yn aml. Roedd eu pibellau dŵr yn rhedeg gyfochr a’r garthffos agored, ac oherwydd bod y pibellau yn cracio, roeddent yn cael eu heintio.

Stori Jeremiah

Mae sefydliad o’r enw Majin a Ufanisi, a gefnogir gan Cymorth Cristnogol, yn helpu pobl yn yr aneddiadau. Mewn rhai ardaloedd mae wedi adeiladu toiledau a chawodydd ac wedi cyflenwi tanciau dŵr er mwyn cadw dŵr glân.

Stori Jeremiah

Roedd Manji na Ufanisi am roi tanciau dŵr, toiledau a chawodydd yn Matopeni. Yna byddai Jeremiah a’i deulu wedi cael dŵr glân. Dywedodd Jeremiah, ‘Pan fyddaf yn beiriannydd ar ôl tyfu i fyny, gallaf helpu Matopeni.’

Stori Jeremiah

Mae Jeremiah yn helpu Matopeni nawr! Mae’r gymuned yn helpu Majin a Ufanisi i lanhau eu strydoedd ac mae llawer o bobl wedi helpu i adeiladu traeniau newydd. Mae rhai hyd yn oed wedi symud eu cartref er mwyn gwneud lle i’r traeniau a phalmentydd wrth eu hymyl. Gyda gwaith y llywodraeth leol ar floc toiled y gymuned yn dod yn ei flaen yn dda, mae Jeremiah yn gallu edrych ymlaen at ddyfodol iachach.

Dowch i gyfarfod Jeremiah a dysgu mwy am ei fywyd yn Kenya