Mae Colombia yn wlad hyfryd iawn, ond bu ymladd mewn rhannau am flynyddoedd maith. Dowch inni ddarganfod sut y mae’r ymladd wedi effeithio Edile a gweld os yw’n teimlo’n fwy diogel bellach.
Dyma Edile Beite Chaverra. Mae’n naw oed. Mae’n byw yn Las Camelias, gorllewin Colombia. Mae yna lawer o ymladd dros dir ble mae o’n byw.
Mae rhai pobl am gymryd tir oddi ar y bobl sy’n byw yno a’i ddefnyddio i dyfu planhigion sy’n cynhyrchu olew palmwydd, y gellid ei werthu am lawer o arian. Bu raid i gannoedd o bobl, fel Edile, adael eu cartrefi pan gawsant eu hymosod.
Pan oedd Edile yn ifanc, cafodd ei dad ei ladd yn yr ymladd. Roedd gweddill y teulu mor ofnus nes iddynt ffoi o’u cartref. Roeddent yn rhy ofnus i fynd yn ôl.
Mae Cymorth Cristnogol yn helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan yr ymladd yn Colombia. Mae un o bartneriaid yr elusen (Comisiwn Rhyng-Eglwysig dros Gyfiawnder a Heddwch) wedi helpu i greu lle diogel i bobl symud iddo. Mae Edile a’i deulu yn byw yno nawr.
Enw’r lle diogel hwn yw Las Camelias. Mae’n le arbennig iawn oherwydd does neb yn cael dod ag arfau yno. Golyga hyn fod pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn byw mewn heddwch ac nid ydynt yn ofni cael eu hymosod a’u gorfodi o’u cartrefi.
Mae’r tywydd yn gynnes a gwlyb yma, felly mae’r tai yn Las Camelias yn awyrog ac agored. Maent i gyd wedi eu codi oddi ar y ddaear fel na chant eu gorlifo.
Mae Edile’n caru ei gartref newydd. ‘Rwy’n hapus iawn. Mae’n le hwyliog ac mae gen i lawer o ffrindiau,’ meddai.
Mae’r holl deulu yn ddiolchgar eu bod yn gallu byw mewn heddwch.