Cartref Llyfr sgrap
Bangladesh

Bangladesh

Mae rhai o bobl Bangladesh yn byw ar ynysoedd yng nghanol yr afonydd, gyda dŵr o’u cwmpas. Dowch inni ganfod sut fywyd ydi hwnnw.

Dychmygwch sut beth ydi byw ar ynys fechan iawn.

Stori Sokhina

Stori Sokhina

Mae Sokhina yn wyth oed ac mae’n byw ar ynys afon yn Bangladesh.

Stori Sokhina

Mae’r ynys yn fach a bregus, oherwydd allan o silt tywodlyd y mae’r ynysoedd hyn wedi eu creu, nid craig galed.

Pan fo’r afon yn gorlifo, gall yr ynysoedd gael eu llusgo i ffwrdd.

Stori Sokhina

Mae llifogydd yn digwydd yn aml yn Bangladesh oherwydd bod yno nifer o afonydd (700) yn llifo trwy’r wlad.

Mae’r afonydd yn cario eira wedi dadmer o fynyddoedd yr Himalaya i’r môr, felly pan fo’r eira yn toddi yn y mynyddoedd, mae lefel yr afonydd yn codi. Gall glawogydd trwm godi lefel yr afonydd hefyd.

Mae newid hinsawdd yn newid patrymau’r tywydd o amgylch y byd ac mae’r llifogydd yn fwy o broblem i bobl Bangladesh.

Stori Sokhina

Bu raid i deulu Sokhina symud pan gafodd yr ynys yr oedd ei theulu’n byw arni ei llusgo i ffwrdd mewn gorlif.

Dim ond baban oedd Sokhina pan ddigwyddodd hyn, felly rhoddodd ei mam hi mewn pot coginio (tebyg i’r un yn y llun) a’i ddefnyddio fel cwch i gario Sokhina i le diogel ar ynys arall.

Hefyd fe wnaeth rafft i gario gweddill y teulu i ddiogelwch.

Stori Sokhina

Ond mae ei theulu yn dal i boeni am y llifogydd. Pan fo’r afon yn codi, mae’r dŵr weithiau’n dod reit i fyny at eu tŷ.

Un noson, fe syrthiodd brawd bach Sokhina o’i wely ac i’r dŵr. Yn ffodus, fe ddeffrodd ei fam a’i dynnu allan yn sydyn.

Stori Sokhina

Hoffai deulu Sokhina godi lefel y tŷ i dir uwch, lle byddent yn teimlo’n fwy diogel rhag y llifogydd.

Mae Cymorth Cristnogol eisoes wedi helpu ffrindiau Sokhina, Farhad a Juti, i godi eu tŷ hwy ac mae’n well o lawer.
 

Stori Sokhina

Mae Cymorth Cristnogol hefyd wedi rhoi fferm llyngyrod i Farhad a Juti fel eu bod yn gallu gwneud compost.

Roedd yn arfer bod yn anodd iawn tyfu llysiau yn y pridd tywodlyd ar yr ynys, ond mae’r compost wedi eu helpu i dyfu llawer o fwyd da.

Stori Sokhina

Fe hoffai deulu Sokhina gael llyngyrod hefyd fel eu bod yn gallu tyfu llysiau.

Petai ganddynt fwy o fwyd a thŷ uwch, fel Farhad a Juti, yna byddent yn teimlo’n llawer diogelach a hapusach ar eu hynys.

Darganfyddwch sut all llyngyrod helpu pobl yma.