Mae llawer o blant yn Affganistan yn methu mynd i’r ysgol oherwydd yr anghydfod parhaus yno a’r diffyg ysgolion. Darganfyddwch sut y mae Guljan yn dysgu i ddarllen ac ysgrifennu er nad oes ysgol yn ei phentref.
Dyma Guljan. Golyga ei henw ‘calon blodyn’. Mae Guljan yn naw oed a’r hynaf o bedwar o blant.
Mae ganddi frawd a dwy chwaer. Mae’n byw mewn pentref o’r enw Khanghozak.
Mae tua 450 yn byw yn Khanghozak. Mae’r pentref rhyw awr mewn car oddi wrth ffordd wedi ei phalmantu.
Sut le yw eich lle chi?
Mae gan bawb yn y pentref waith i’w wneud. Mae Guljan yn helpu ei thad i ofalu am yr anifeiliaid. Meddai, ‘Rwy’n helpu efo’r geifr a’r defaid, ac yn mynd a nhw i’r borfa i gael bwyd. Rwy’n golchi’r llestri, yn sgubo’r llawr ac yn chware efo fy chwaer fach.
Rwyf hefyd yn mynd i gludo dŵr, oherwydd mae’r dŵr sydd yma yn hallt. Pob dydd rhaid inni fynd yr holl fordd i Dughi (dwy awr bob ffordd) i gludo dŵr. Mae’r merched i gyd yn mynd efo’i gilydd efo asyn.
Dyma athrawes Guljan. Ei henw yw Ferishta Ghafour. Does gan Khanghozak ddim ysgol ei hun, ond mae Guljan wedi bod yn mynd i ddosbarth llythrennedd arbennig, a bellach mae’n gallu darllen ac ysgrifennu.
Mae’r dosbarthiadau yn cael eu rhedeg gan gorff o’r enw Gweithgarwch Merched a Chymdeithas Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n cael ei gefnogi gan elusen Cymorth Cristnogol.
Sut le sydd yn eich ysgol chi? Ym mha ffordd y mae’n debyg i ddosbarth Guljan ac ym mha ffordd y mae’n wahanol?
Mae Guljan wrth ei bodd yn mynd i’w dosbarth. Dywed, ‘Rwyf am fod yn athrawes … ac rwyf am ddysgu dosbarth cymysg o ferched a bechgyn. Rwyf wedi dysgu sut i ddarllen a sgwennu a rŵan dwi’n dysgu fy mrawd adra hefyd.’